Eil-ffwythiannau ac od-ffwythiannau

Mae'r ffwythiant sin a'i holl polynomialau Taylor yn od-ffwythiannau. Mae'r ddelwedd hon yn dangos a'i frasamcaniadau Taylor, polynomialau gradd 1, 3, 5, 7, 9, 11 ac 13.
Mae'r ffwythiany cosin a'i holl polynomialau Taylor yn eil-ffwythiannau. Mae'r ddelwedd hon yn dangos a'i frasamcaniad Taylor o radd 4.

Mewn mathemateg, mae eil-ffwythiannau ac od-ffwythiannau yn ffwythiannau sy'n bodloni perthnasoedd cymesuredd penodol. Maent yn bwysig mewn nifer o feysydd o ddadansoddiad mathemategol, yn enwedig theori cyfresi pŵer a chyfresi Fourier. Fe'u henwir am baredd pwerau'r ffwythiannau pŵer sy'n bodloni pob amod: mae'r ffwythiant yn eil-ffwythiant os yw n yn eilrif, ac mae'n od-ffwythiant os yw n yn odrif.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search